P-04-607 Call for the Welsh Government to Purchase Garth Celyn – Additional information submitted by third party
William Powell, Aelod Cynulliad,
Cadeirydd Pwyllgor Deisebu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Annwyl Syr
Ysgrifennaf atoch ynglŷn a dyfodol Garth Celyn, cartref hanesyddol Tywysogion Cymru yn Abergwyngregyn.
Ers nifer o flynyddoedd bellach bum yn tywys criwiau o bobl ifainc yn enw Urdd Gobaith Cymru yn flynyddol ar daith i Ogledd Cymru i ddysgu am ein hanes a’n hetifeddiaeth fel rhan o’u cwrs lefel A Cymraeg ail iaith. Fel rhan o’r cwrs maent yn astudio ddrama Saunders Lewis – SIWAN.
Mae Kathryn Gibson, perchennog Garth Celyn, sydd hefyd yn hanesydd o bwys, wedi roi blynyddoedd o’i hoes i wneud ymchwil manwl a chynhwysfawr ar hanes Garth Celyn. Mae hi wedi profi tu hwnt i bob amheuaeth taw dyma oedd pencadlys Tywysogion Cymru. Mae haneswyr eraill yng Nghymru a nifer fawr o unigolion a chyrff ein gwlad wedi ategu’r ymchwil yma a nodi pwysigrwydd yr adeilad hynafol yma yn ein hanes.
Mae Kathryn wedi bod yn agor drysau ei chartref a chroesawu pobl o bob oed o bob cwr o Gymru a thu hwnt i mewn i’w chartref ers 1988 ac mae ei hymrwymiad i adrodd cefndir pwysig Garth Celyn yn unigryw a gwerthfawr. Mae hanes Tywysogion Cymru yn hynod o bwysig ac fe ddylai phob ysgol yng Nghymru fod yn trosglwyddo’r darn pwysig yma o’n hanes i genedlaethau’r dyfodol.
Trist iawn felly oedd clywed fod ddyfodol Cartref ein Tywysogion yn afantol a braf oedd clywed am ymgyrch Kathryn i sicrhau dyfodol y tŷ. Credaf yn gryf fod gan cyrff megis CADW, Comisiwn Henebion Cymru, Cyngor Gwynedd ac yn sicr Cynulliad Cenedlaethol Cymru dyletswydd i sicrhau dyfodol Garth Celyn i’r cenedlaethau a ddaw.
Edrychaf ymlaen at glywed canlyniad y drafodaeth yn y Pwyllgor Deisebu yn y Cynulliad ar 24 Chwefror 2015 a mawr obeithio taw dechrau yn unig yw hyn ac y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sicrhau fod Garth Celyn yn cael ei warchod a’i datblygu fel safle o bwys hanesyddol i bawb yng Nghymru yn y dyfodol agos.
Yr eiddoch yn gywir
Helen Greenwood, Swyddog Datblygu Rhanbarth Gwent, Urdd Gobaith Cymru
Swyddfa’r Urdd (Rhanbarth Gwent),Ty'r Ysgol, Stryd Holland, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6HT. Ffôn: 01495 350155 / Ffacs: 01495 306867.E-bost: HelenG@Urdd.org